Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (171)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys William Graham (Dwyrain De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cydlynu gwaith y gwasanaethau brys ag adrannau eraill y Llywodraeth, asiantaethau a gwasanaethau gwirfoddol wrth fynd i’r afael â’r tywydd garw a’r llifogydd?
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) at y Goruchaf Lys (30 munud)
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: Gwasanaethau Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru (30 munud)
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Rhoi Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd ar waith (30 munud)
|
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â diwygio adran 98(1) o'r Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (30 munud) NDM5383 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud â diwygiadau i adran 98(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). I weld copi o’r Bil ewch i: Dogfennau'r Bil — Y Bil Plant a Theuluoedd [Tŷ'r Arglwyddi] 2012-13 i 2013-14 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
|
7 Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 (15 munud) NDM5395 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2013.
Dogfennau Ategol Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
|
8 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (15 munud) NDM5392 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2013.
Dogfennau Ategol Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
Cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei drafod (5 munud) NDM5400 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 9 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 14 Ionawr 2014.
|
9 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014 (15 munud) NNDM5396 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2014.
Dogfennau Ategol Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
10 Dadl: Setliadau Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol ar gyfer 2014-15 (60 munud) NDM5393 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2014.
Dogfennau Ategol Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Cynghorau) (Saesneg yn unig)
|
11 Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2012-13 (60 munud) NDM5394 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.
Dogfen Ategol Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai fod gan bobl sydd wedi dioddef troseddau rhyw yn eu herbyn yr hawl i wybod pryd y mae'r sawl a ymosododd arnynt yn cael ei ryddhau o gaethiwed, gan gynnwys amodau’r rhyddhau hwnnw, ac y dylai'r hawl hwn gael ei gynnwys yn y Bil arfaethedig, y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 15 Ionawr 2014